Llofnodi Bargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Deg o Arweinwyr Awdurdodau Lleol, a Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, yn Cytuno ar Gronfa Buddsoddi Rhanbarthol gwerth £1.2 biliwn

Llofnodwyd Bargen Ddinesig gwerth £1.2 biliwn i ddatgloi twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn ffurfiol heddiw.

Dros ei hoes, disgwylir y bydd y Fargen Ddinesig yn darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd ac yn trosoleddu £4 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad gan y sector preifat ledled y rhanbarth.

Gwnaeth y deg arweinydd o’r awdurdodau lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd; Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb; y Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands; a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, lofnodi dogfen y Fargen Ddinesig mewn seremoni ym mhrif swyddfa’r Admiral yng Nghaerdydd.

Mae’r Fargen Ddinesig yn darparu cyfle i barhau i fynd i’r afael â rhwystrau’r ardal i dwf economaidd drwy: gwella cysylltedd trafnidiaeth; cynyddu lefelau sgiliau; cymorth pobl i weithio; a rhoi’r gefnogaeth i fusnesau y mae arnynt ei hangen i arloesi ac i dyfu.

Bydd hefyd yn datblygu arweinyddiaeth a threfn lywodraethu gryfach a mwy effeithiol ledled y rhanbarth drwy Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan alluogi arweinwyr y deg awdurdod lleol i gyfuno llunio penderfyniadau, cyfuno adnoddau a gweithio’n agos â busnesau.

Mae’r Fargen Ddinesig yn cynnwys:

Buddsoddiad gwerth £1.2 biliwn yn seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy Gronfa Fuddsoddi 20 mlynedd. Un o’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer buddsoddi fydd darparu Metro De-ddwyrain Cymru, yn cynnwys rhaglen Trydaneiddio Llinellau’r Cymoedd.

• Creu Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol anstatudol i gydgysylltu cynllunio a buddsoddi mewn trafnidiaeth mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

• Datblygu galluoedd mewn Cymwysiadau Lled-ddargludydd Cyfansawdd. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi £50 miliwn i sefydlu Canolfan Catapwlt newydd yng Nghymru. Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu, ac yn darparu cefnogaeth i fusnesau arloesol, gwerth uchel.

• Bydd Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei greu (gan adeiladu ar drefniadau presennol) i sicrhau bod darpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn gallu ymateb i anghenion busnesau a chymunedau lleol. Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn gweithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyd-gynllunio’r gefnogaeth i gyflogaeth yn y dyfodol o 2017 ar gyfer pobl â chyflwr iechyd neu anabledd a/neu bobl ddi-waith dros yr hirdymor.

• Sefydlir Sefydliad Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i sicrhau bod yna un llais sengl i fusnesau i weithio ag arweinwyr awdurdodau lleol.

• Mae Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymrwymo i ddull partneriaeth newydd tuag at ddatblygu tai ac adfywio. Bydd hyn sicrhau y cyflawnir cymunedau cynaliadwy drwy ddefnyddio ac ailddefnyddio eiddo a safleoedd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd yn cyfrannu £500 miliwn tuag at Gronfa Fuddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn ôl eu trefn. Darperir cyllid Llywodraeth Cymru dros saith mlynedd gyntaf y Gronfa, o 2016/17 i 2022/23. Bydd y deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyfrannu isafswm o £120 miliwn dros gyfnod y Gronfa.

Gwneir penderfyniadau ar flaenoriaethu’r cynlluniau arfaethedig, heblaw am y Metro, gan Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ymgynghori ag arweinwyr busnes a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg.

Mae’r deg awdurdod lleol wedi’u hymrwymo i ysgrifennu a mabwysiadu fframwaith sicrwydd ar gyfer y Gronfa Fuddsoddi, y cytunir arno gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, i sicrhau gwerth da am arian a bod prosiectau arfaethedig yn cael eu tanategu gan achos busnes cadarn.

Er mwyn darparu ymrwymiadau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a strategaeth economaidd cyfnod hwy, mae’r deg awdurdod lleol wedi gofyn am fwy o ymreolaeth a hyblygrwydd ariannol. Fel rhan o’r Fargen Ddinesig hon, bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd:

• Datganoli incwm ardrethi busnes uwchben llinell sylfaen twf y cytunwyd arni i ddarparu cyllid ar gyfer rhaglen y Fargen Ddinesig.
• Darparu’r gallu i godi atodiad seilwaith.
• Creu’r opsiwn i’r awdurdodau lleol ddefnyddio ffynonellau cyllid eraill.
• Cael gwared ag amodau yn ymwneud â rhai grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu cyfuno cyllid ar y lefel ranbarthol mewn meysydd megis cefnogi ysgolion ac ymyriadau i geisio datrys tlodi.

Gan groesawu’r Fargen Ddinesig, dywedodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne:
 
“Mae arnaf eisiau creu chwyldro datganoli o amgylch y Deyrnas Unedig a grymuso arweinwyr lleol yng Nghymru, ac felly mae’n wych cyhoeddi Bargen Ddinesig hanesyddol yn Ninas-Ranbarth Caerdydd sy’n werth dros £1.2 biliwn.
 
“Disgwylir y bydd y fargen hanesyddol hon yn creu hyd at 25,000 o swyddi ac yn trosoleddu £4 biliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat drwy drosglwyddo gwir bŵer i lunwyr polisi lleol sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau bod economi Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol.”
 
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:
 
"Caerdydd yw un o brifddinasoedd ieuengaf a mwyaf dynamig Ewrop, ac mae ganddi broffil rhyngwladol sy’n tyfu ac enw da cynyddol fel cyrchfan i fusnesau gyfarfod.
 
"Mae’r Fargen Ddinesig yn darparu’r garreg lamu i Gaerdydd ymgodi fel prif bwerdy twf yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn helpu i weddnewid dinas-ranbarth Caerdydd, a disgwylir y bydd yn datgloi biliynau o bunnau o gyllid y sector preifat ac yn darparu miloedd o swyddi newydd yn Ne Cymru.
 
"Gwlad fechan yw Cymru, ac rydym yn llawer iawn mwy effeithiol na’n maint pan weithiwn gyda’n gilydd. Bydd y bartneriaeth ddiffuant hon rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a deg o awdurdodau lleol yn Ne Cymru yn helpu dinas-ranbarth Caerdydd i wireddu’i photensial llawn.
 
"Mae’n cynrychioli’r hyder sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn grymuso llunwyr penderfyniadau lleol i ganfod eu ffyrdd eu hunain o gyflawni gwelliannau economaidd a dinesig a allai fod o fudd i bron hanner poblogaeth Cymru."

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Greg Hands:
“Rwyf yn falch iawn o allu llofnodi’r fargen hanesyddol hon - y cyntaf o’i math yng Nghymru. Bydd buddsoddiad gwerth £500 miliwn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn economi De-ddwyrain Cymru yn helpu i sicrhau bod y seilwaith a’r cysylltiadau trafnidiaeth yn y rhanbarth yn cyrraedd y safon y mae pobl a busnesau lleol yn ei haeddu.
“Mae’n hanfodol mai’r rheiny sy’n gwneud y penderfyniadau hyn yw arweinwyr lleol, y bobl sy’n gwybod am Gaerdydd a’r rhanbarth ehangach orau.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru: 

“Rydym wedi lobïo’n galed dros Fargen Ddinesig i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a rhoesom fwy na £500 miliwn gerbron i gefnogi gwella seilwaith trafnidiaeth yn y rhanbarth. Gwêl cyhoeddiad heddiw'r weledigaeth honno’n dod yn realiti - mae’n arwydd o ffydd yn y rhanbarth ac yn hwb economaidd enfawr.
 
“Yn ganolog i lwyddiant Bargen Ddinesig yw’r cydweithio a’r bartneriaeth agos rhwng pob un o’r deg awdurdod lleol. Mae’n enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy uno er daioni ehangach ein Prifddinas-Ranbarth.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Grŵp Arweinydd y Fargen Ddinesig ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Dyma ddiwrnod tyngedfennol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd am lawer o resymau.

“Dylai’r Fargen Ddinesig ein galluogi i ddatgloi twf economaidd sylweddol, ac ennyn gwelliannau ac adfywio cymdeithasol.

“Bydd yn gweld math newydd o lywodraethu rhanbarthol gyda chydweithredu rhwng yr awdurdodau lleol sy’n bartneriaid, a gweithio agos â busnesau ac addysg bellach ac addysg uwch.

“Hoffai’r partneriaid dalu teyrnged i’r gwaith caled a wnaed gan dîm y Fargen Ddinesig, yn enwedig swyddogion yr awdurdodau lleol oedd a gymerodd ran.

“Hoffem hefyd ddiolch i Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru am eu cefnogaeth, a’u hyder yn nhîm y Fargen Ddinesig i gyflawni yn awr y rhaglen gyffrous hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd: “Rydym wedi gweithio’n hir a chaled i ddod â Bargen Ddinesig i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi bod yn llwyddiannus. Yn ariannol, sicrhaom fwy o fargen i’n trigolion na Bargen Ddinesig Glasgow, ond yn awr y mae’r gwaith go iawn yn dechrau.
 
“Mae arnom eisiau i’r Fargen hon wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl, gan wella rhagolygon i’n holl ddinasyddion. Golyga’r llofnodi heddiw y gall gwaith ddechrau ar greu rhanbarth mwy cynhwysol a llewyrchus.

“Mae arnaf eisiau i bawb wybod ein bod yn benderfynol o gyflawni gwell cyfleoedd i’n holl drigolion. Gall sicrhau’r Fargen Ddinesig ein helpu i wneud hyn. Mae arnom eisiau creu gwell cyfleoedd gwaith i bobl ac mae arnom eisiau’u galluogi i gymryd y cyfleoedd gwaith hynny pan fônt yn codi. Yn y pen draw, mae arnom eisiau gwella cyfleoedd pawb o fwynhau gwell dyfodol.”

Mae’n rhaid i aelodau’r deg awdurdod lleol gytuno’n ffurfiol ar y Fargen Ddinesig.