Cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Twf a Chystadleugarwch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd


Cyhoeddodd y comisiwn ANNIBYNNOL, a benodwyd i adolygu’r ffordd orau y gallai Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) gyflawni’i huchelgais o gael twf economaidd, ei argymhellion heddiw (yr 16eg o Ragfyr).

Ymgasglodd Comisiwn Twf a Chystadleugarwch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gadeiriwyd gan yr arbenigwr rhyngwladol ar ddinas-ranbarthau, yr Athro Greg Clark, y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod yn fwy goludog, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy, os caiff y rhanbarth ei gysylltu’n well ac os daw’n fwy rhyngddibynnol.  I gyflawni’r blaenoriaethau hyn, mae’n dadlau bod ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd angen strategaeth economaidd hirdymor i:

  • Fuddsoddi mewn addysg i wella cyflogadwyedd a chynhyrchiant.
  • Meithrin twf cyflogaeth ledled sgiliau penodol a ledled gwahanol lefelau incwm.
  • Cydweithio i gefnogi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat mewn seilwaith i integreiddio’r rhanbarth yn well ac i ddarparu mwy o gyfleoedd.
  • Cefnogi datblygiad economaidd ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan alluogi creu llawer o leoliadau twf.
  • Datblygu cynllunio strategol i alluogi adeiladu tai ac ymdrechion adfywio.
  • Gwella ansawdd y lle ac ystod y sefydliadau sy’n buddsoddi mewn gwella canolfannau dinasoedd a threfi.
  • Meithrin sectorau cyflogaeth sy’n datblygu a chwmnïau newydd/ifainc.
  • Integreiddio rhagor ar strwythurau llywodraethu yn y ddinas-ranbarth i gyfuno ymdrechion, buddsoddiad trosoleddau, a symleiddio’r ffordd y gwneir penderfyniadau.

Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio’r angen i ‘symud… [i] weithredu’n gyflym ac i osgoi rhagor o adolygiadau.’

Casglodd y Comisiwn, sy’n elfen allweddol o Fargen Ddinesig gwerth £1.22 biliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dystiolaeth oddi wrth fusnesau, arweinwyr cymunedol, a rhanddeiliaid eraill cyn paratoi’r adroddiad ar y ffordd orau o ddefnyddio’r Fargen Ddinesig i sicrhau twf economaidd ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Cydweithredodd y Comisiwn hefyd ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, a chyda’r Centre for Cities, sef uned polisi ymchwil annibynnol.

Rhoddwyd tystiolaeth gan dros 100 o dystion yn ystod sesiynau agored, a gynhaliwyd ym mis Medi.  Rhoes dros 1,500 o bobl hefyd eu barn drwy arolwg ar-lein.

Dywedodd yr Athro Clark, a fu’n gynghorydd i nifer o ddinasoedd yn y Deyrnas Unedig a thramor, fel ei gilydd, yn cynnwys Auckland, San Diego, Llundain, Manceinion, Glasgow a Belfast: “Ein hasesiad ni yw y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod yn fwy goludog, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy.
“Ni welwn dyndrau anochel nac annatrysadwy rhwng y blaenoriaethau rydym wedi’u nodi.
“Ond cydnebydd y Comisiynwyr y gellir ond eu cyflawni os caiff y rhanbarth ei gysylltu’n llawer gwell ac os daw’n rhyngdibynnol, ac os defnyddir buddsoddiad mewn cysylltedd i gymell newidiadau mewn dulliau trafnidiaeth, gwneud defnyddiau newydd o’r tir, meithrin economi amlganolog, a gwell bywydau i bobl ar bob lefel incwm.”
Ymgasglodd yr Athro Clark: “Mae’n rhaid i welliannau mewn cysylltiadau rheilffyrdd gymell a galluogi creu gwell lleoedd cyhoeddus i hybu lles, mwy o glystyrau busnes, gwell sgiliau, a dyheadau mwy beiddgar ar gyfer y ddinas-ranbarth.”

Mae adroddiad y Comisiwn yn darparu:

  • Canllawiau ar gyfer datblygu prosiectau, gan amlinellu strategaeth fuddsoddi a meini prawf o ran prosiectau.
  • Syniadau a manylion ar gyfer cynigion dichonol ar gyfer buddsoddi sylweddol mewn rhanbarthau. 
  • Argymhellion ar gyfer datblygu dinas-ranbarth fwy cystadleuol yn y dyfodol.
  • Fframwaith ar gyfer strategaeth datblygu economaidd fwy manwl i’w datblygu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Sefydlwyd y Comisiwn ar y cyd gan y deg awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Gellir darllen adroddiad y Comisiwn yma (o 9.00yb, yr 16eg o Ragfyr, 2019): www.cardiffcapitalregioncitydeal.wales /www.cytundebdinesigprifddinasranbarthcaerdydd.cymru